Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA(4)-21-14
CLA431 - Rheoliadau Clefydau Moch 2014
Mae'r rheoliadau cyfansawdd hyn yn gweithredu cyfraith yr UE ar gyfer rheoli:
a) clefyd pothellog y moch ('SVD') a geir yn y Gyfarwyddeb Cyngor 92/119/EEC sy'n cyflwyno mesurau cymunedol cyffredinol ar gyfer rheoli rhai clefydau anifeiliaid a mesurau penodol ynghylch clefyd pothellog y moch;
b) clwy clasurol y moch ('CSF') a geir yn y Gyfarwyddeb Cyngor 2001/89/EC ar fesur cymunedol i reoli clwy clasurol y moch;
c) clwy Affricanaidd y moch ('ASF') a geir yn y Gyfarwyddeb Cyngor 2002/60/EC sy'n nodi'r trefniadau penodol ar gyfer rheoli clwy Affricanaidd y moch a diwygio Cyfarwyddeb 92/199/EEC o ran clefyd Teschen a chlwy Affricanaidd y moch.
Dim ond pan fo amheuaeth o ASF, CSF neu SVD neu os cânt eu cadarnhau ym Mhrydain Fawr y mae'r Rheoliadau yn gymwys.
At hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r offerynnau statudol a ganlyn, yng Nghymru:
· Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003
· Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003
· Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009
· Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) (Diwygio) 2009
Gweithdrefn: Negyddol
1. Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:
1. Oherwydd eu bod yn rheoliadau cyfansawdd sy'n destun gweithdrefn seneddol San Steffan, mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud yn Saesneg yn unig.
[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.]
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu'r ymateb a ganlyn:
"Bydd y Rheoliadau cyfansawdd hyn yn berthnasol i Brydain Fawr ac yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn Senedd y DU. Felly, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei wneud, na'i osod, yn ddwyieithog."
2. Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Awst 2014